Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

Be 'di be? ABOUT

Tudalen ddwyieithog - Bilingual page. Scroll down for English.

Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

Pam cadw blog am y maes hwn?
“Rhai wedi eu tynghedu i fod yn wlyb”. Dyna sut mae Gwyn Thomas yn disgrifio pobl Stiniog.
A’r glaw sy'n gyfrifol am fodolaeth y blog yma, am wn i; finna wedi bwcio 'chydig o ddyddiau adra o'r gwaith dros y Pasg yn 2012, efo'r bwriad o arddio, a chael siom efo'r tywydd. Eto.

Ges i drafferth dod o hyd i rywbeth yn Gymraeg ryw dro ar y we, a'i gweld yn chwithyg nad oedd fawr ddim ar gael am blanhigion a phryfaid, a thyfu, hela, a mwynhau bwyd, yn iaith y nefoedd.
Ges i fy ysbrydoli i roi cynnig arni gan ambell i flog Cymraeg fel Asturias yn Gymraeg, a Garddiadur, Hadau, Blog Garddio Bethan Gwanas. Mae'r tri olaf wedi rhoi'r ffidil yn y to o be wela'i bellach (2014), ond mwy wedi dod i godi diddordeb: Ailddysgu, Cadw Rhandir, Bwyta Gwyllt, a mwy.

Bychan ydi'r gynulleidfa, ond nid poblogrwydd sy'n gyrru'r awydd i ddal ati.
Yn hytrach, rhyw awydd i roi corff o ysgrifau a mwydro a lluniau ar y we, am ei bod yn bwysig bod pob pwnc dan haul yn cael eu trin yn ein hiaith gynta'. A rhag ofn bod rhywun arall yn chwilio ryw dro.

Ar benblwydd cynta'r blog, mi bendronais fel hyn:
"Dwi wedi mwynhau y broses yn fawr iawn, ond dwi'n holi fy hun o dro i dro pam fy mod yn dal ati?
Ai math o ddyddiadur i mi fy hun ydi o, ar adeg pan fo'r cof yn llai dibynnol?  Esgus i beidio mynd ati i sgwennu'r nofel honno sy'n honedig ym mhob un ohonom? Rhywbeth i nghadw fi'n gall pan fo pawb arall eisiau gwylio'r teledu? Yr ego yn camarwain fod gennyf rywbeth sy'n werth ei ddweud?  Dwn 'im..."


"Tybed ydi sgwennu am arddio yn esgus i beidio codi oddi ar fy nhin i fynd allan i arddio? Fel mae rhai yn prynu a darllen llyfrau Jamie Oliver a Nigella Lawson, ond sydd byth yn coginio..."

Mae un peth yn siwr: mae angen mwy o blogs Cymraeg am bob pwnc dan haul. 

Dewch o'na bawb, ewch ati! 

Diolch am alw beth bynnag. Brysiwch yn ôl. Mae derbyn sylwadau'n brofiad gwerthfawr iawn.

Wilias ta Lleucu?
Paul ydi'r enw ges i gan fy rhieni. Wilias mae fy ffrindiau yn fy ngalw.
Yn Chwefror 2014 mi greodd fy merch gyfrif google iddi hi ei hun. Yn anffodus, rywsut, yn y broses mi ddwynodd  hi'r cyfrif oeddwn i wedi ddefnyddio i greu y blog yma, felly mae pob post ar y blog cyn Chwefror 2014 wedi eu labelu fel erthyglau 'Gan Lleucu'.
Mi fysa blog ganddi hi yn fwy diddorol o lawer dwi'n siwr. Ta waeth, fi sy'n gyfrifol am y mwydro a'r malu awyr i gyd, nid y hi.

 ---------------------------------------------------------------------------------------
GROWING FOOD, FORAGING, AND THE WORLD AROUND ME, 700 FEET ABOVE SEA LEVEL. 

I blog in Welsh because I think, live, love, breathe, and dream in Welsh.
'Ni allaf ddianc rhag Hon.'  Nor would I want to escape it.

There are a thousand blogs about food and gardening in English, and very, very few in Welsh.

Feel free to use online translation sites to get a feel of what I'm saying, but bear in mind that it is a robot doing the translating. I do not accept responsibility for any nonsense that arises!

Anyway, comments are welcome in any language.
Diolch yn fawr/thanks.

3 comments:

  1. Mae rhaidd imi dweud Mr W, fy mod yn hoffi dy flog di yn fawr iawn! Siomedig i gyfaddef wnaeth cymryd ychydig imi sylweddoli roeddet yn 'linkio' at dy flog DI trwy dy dydalen ar facebook, a ddim jyst flog rhywun arall o'r ardal! (Sori!)
    Pa mor annodd/hawdd yw creu wefan neu blog; dwi'n licio'r syniad o wneud rhywbryd?

    Eniwe - "keep up the good work!"

    Nico

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Nico.
      Mae'r broses o greu blog yn hawdd iawn deud y gwir. Yr hyn sy'n anoddach ydi sicrhau'r amser i sgwennu rhywbeth! A thrio peidio bod yn rhy ddiflas!
      Edrych ymlaen i weld dy waith di'n gweld golau dydd..

      Delete
  2. Anonymous22/2/16 16:57

    Helo,
    Dwi'n ymchwilydd ar gyfer Cwmni Da yng Nghaernarfon ac rydym wrthi yn casglu syniadau ar gyfer eitemau all ffurfio rhan o gyfres deledu newydd i S4C.
    Bydd hon yn gyfres 18 rhan fydd yn cychwyn darlledu ddiwedd Ebrill ac fydd yn cynnwys eitemau o’r ardd, yn ogystal a’r byd naturiol ehangach y tu hwnt i ffiniau yr ardd.
    Rhaid i mi ddweud mod i'n hoffi'r blog, tybed buasai gennych ddiddordeb dangos eich gardd a'r rhandir yn y gyfres, a trafod y blog?
    Gallwch gysylltu gyda mi i drafod ymhellach ar ebost: elin.gwyn@cwmnida.tv

    Diolch yn fawr,

    Elin Gwyn

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau