Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.5.17

Llifbryfaid

Mae'r diawlad yn eu holau!

Mi suddodd fy nghalon pan welais y ddeilan dyllog gynta.


 Mewn ychydig ddyddiau, os ga'n nhw lonydd, mae'r larfau yn bwyta a thyfu, a bwyta mwy...

 ...gan droi dail yn sgerbydau gweigion.

Gallan nhw droi llwyn cyfa yn llanast mewn wythnos. Mae'n talu i gadw golwg ym mis Mai.

Degllath oddi wrth y coed cyrins cochion a'r gwsberins sy'n cael eu cnoi, mae nythiad o gywion titws, a'r iar a'r ceiliog yn ôl a blaen trwy'r dydd efo lindys a phryfaid i'w bwydo nhw. Biti ar y naw na fysen nhw'n hel y larfau llifbryf sydd o dan eu trwynau. Blas gwael arnyn nhw mae'n rhaid.

Dim byd amdani felly ond gwasgu'r diawlad rhwng bys a bawd. Gwaith ffiaidd braidd, ond gwae unrhyw beth sy'n bygwth fy ngwsberins!


25.5.17

Mis Mai ar odrau'r mynydd

Mae wedi wyth o'r gloch. Bu'n ddiwrnod heulog, chwilboeth, ac mae'r awyr las di-gwmwl yn parhau, er i'r haul suddo dros orwel garw Craig Nyth y Gigfran hanner awr a mwy yn ôl.

Wrth fy ochr, yn yr ardd gefn, mae un o'r genod yn darllen, yn ôl ei harfer, ac un arall yn strymio alaw newydd ar hen iwcaleili. Mae teulu drws-nesa i'r chwith yn bwyta eu swper a sgwrsio am ddigwyddiadau'r dydd, a'r cymdogion ar y dde yn chwarae ar drampolîn, a chwerthin yn braf. A'r cwbl mewn Cymraeg naturiol a llafar. Rhywbeth yr ydym ni yma yn ucheldir Gwynedd yn ei gymryd yn ganiatáol. Rhywbeth dwi'n mawr obeithio fydd yn par'a am byth... 

Ar dalcen y cwt mae nythiad o gywion titw yn galw'n eiddgar am ddychweliad eu rhieni, a'r gwenoliaid duon yn sgrechian wrth blethu 'mysg ei gilydd ar ras, yn uchel uwch ein pennau. Bob hyn-a-hyn daw cacynen heibio a chreu cynnwrf am ychydig eiliadau, cyn symud yn ei blaen at flodyn arall. Mae'r siff-saff yn galw ei diwn gron yn y wernen, a'r ceiliog mwyalchen yn trydar ei weddi hir nosweithiol.

Ac mae'r awyr yn un lluwch o hadau helyg; peli bychain o wadin pluog gwyn, yn hongian ar yr awel ysgafna', a chyrraedd pob twll a chornel, ymhell o'r cywion gwyddau a'u gollyngodd.


Dyma'r cyfnod euraidd pryd mae hi'n ddigon cynnes i eistedd allan yn yr ardd am ddwyawr hamddenol wedi'r machlud. A mwy weithiau. Dwy neu dair wythnos hyfryd cyn i'r gwybaid mân ddod i'n poeni a'n cosi! Adeg i eistedd 'nôl a mwynhau'r ardd. Ei synau a'i harogleuon. A gwerthfawrogi be' sy'n bwysig mewn bywyd.

Dwi'n caru mis Mai. Dwi' caru 'Stiniog!


24.5.17

Ogla da

Dwi'n medru dilyn fy nhrwyn yn hamddenol o gwmpas yr ardd ar hyn o bryd, a chael llond gwynab o ogla hyfryd bob ychydig lathenni.
 
 Nemesia -planhigyn sy'n byw mewn pot ar y patio, ac yn llenwi'r ardal eistedd efo ogla fanila cryf.

Lelog fach -hyfryd, ac yn blodeuo fel mae'r fanhadlen gyfagos yn gwywo.

Rhosyn mynydd -arogl cynnil ond gwerth ei gael. Yr unig flodyn dwbl sydd yn yr ardd.

 Rhosyn Siapan- persawr arbennig iawn, i ennill maddeuant i blanhigyn sy'n rhedeg i bob cyfeiriad!

 Azalea felen- yn hyfryd am tua tair wythnos. Mewn pot, i'w guddio weddill y flwyddyn!

Coeden fêl oren- 'chydig yn fwy posh na'r bwdleia glas, daeth hwn o doriad gan ffrind.

Mae rhai planhigion wedi gorffen, ac eraill eto i ddod. Melys moes mwy.


16.5.17

Mwyar y gorllewin

Siomedig oedd cnwd y ffrwyth diarth yma llynedd, ond mae addewid am fwy eleni.

Llwyn mwyar y gorllewin (Rubus parviflorus, thimbleberry)

Mae'r blodau mawr gwyn deniadol wedi bod yn fwrlwm o wenyn a chacwn a phryfed hofran, a does ond edrych ymlaen am haul a helfa yr haf yma.


Daliwch y dudalen flaen!

Mae yna flodau ar y goeden afal croen mochyn am y tro cyntaf erioed...


...ac mae'r eirin Dinbych yn chwyddo ac yn aros ar y gangen am y tro cynta 'rioed hefyd!


Fy ffiol sydd lawn.