Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.11.16

Garlleg

Pan o'n i'n 12 oed, fy hoff lysiau i oedd tatws. Ar ffurf chips, wrth gwrs.

Ffa haricot hefyd.
Y rhai oedd yn dod mewn tun, efo saws tomato. Ia, baked beans siwr iawn.

Mae'r Fechan yn 12 oed cyn Dolig eleni. Ei hoff lysieuyn hi ydi garlleg! Mi fwytith hi ewin garlleg yn amrwd, ac wrth ei bodd efo fo wedi'i rostio a'i ffrio hefyd, a'i rwbio ar fara, a'i ychwanegu i bob mathau o brydau bwyd.

Doeddwn i ddim yn gwbod be oedd garlleg nes o'n i yn oedolyn am wn i, ond mae'n anodd meddwl am goginio hebddo fo bellach.


Dwi wedi tyfu garlleg yma o'r blaen, ond heb lwyddiant anferthol, gan imi ddefnyddio ewinedd o'r gegin i'w plannu, yn hytrach na'u prynu'n bwrpasol. Y mis yma, mae'r Fechan a fi wedi prynu, ac wedi plannu tair rhes fer o arlleg yn yr ardd gefn.

Plannwyd dwsin gewin o'r Germidour uchod, a dau ewin mawr o arlleg eliffant, ac mae hen edrych ymlaen at gael plethu'r bylbiau at eu gilydd yr haf nesa'.... gobeithio!


Yn ôl fy arfer, doeddwn i ddim digon trefnus i archebu garlleg hardneck, sydd orau ar gyfer llefydd caled fel Stiniog, felly bu'n rhaid prynu rhai softneck yn lleol a chroesi bysedd y gwna nhw rywbeth ohoni yma ar ochr y mynydd.


Heddiw oedd yr ail ddydd Sul hyfryd o braf yn olynol, ac mi ges i dreulio oriau yn yr haul oer yn clirio a thocio a pharatoi. Mi wnes i rywbeth na wnes i erioed o'r blaen hefyd, sef plannu bylbs tiwlips. Rhwng dau feddwl ydw i os dwi'n licio tiwlips ai peidio. Mi dduda'i wrthach chi y gwanwyn nesa (oni bai fod y llygod a'r lleithder wedi rhoi'r farwol iddyn nhw).

Wrth i'r haul fachlud i gefn y Moelwyn Bach, mi ges i funud neu ddau i edmygu noson braf arall ac atgoffa fy hun fod gen i lawar i ddiolch amdano, am gael byw mewn lle mor wych.



-----------------------

[Toriad o bapur bro cylch 'Stiniog, Llafar Bro sydd yn y llun efo'r garlleg, o 2002. Mae ambell erthygl am arddio yn ymddangos ar wefan Llafar Bro hefyd.]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau