Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.8.16

Crwydro ffiniau

Os dwi'n arddwr drama, blogiwr sâl ar y diawl dwi hefyd, ac wythnosau wedi mynd ers i mi fwydro ddwytha.

Parhau wnaeth y tywydd anwadal: ambell gyfnod braf, ond y rheiny byth yn par'a fawr hwy na deuddydd-dridia' (yn 'Stiniog o leia'). Ond dyna fo, rhaid i rywun wneud y gorau efo be maen nhw'n gael tydi!

Mi fuon ni'n crwydro 'chydig. Ddim yn bell iawn cofiwch, ond wedi cael ymweld â llefydd go arbennig, fel Gerddi Hergest. Rhywle nad oedd yr un ohono' ni'n siwr iawn os oeddan ni yng Nghymru yntau dafliad carreg dros y ffin.
 

A chrib Mynydd y Gadair (neu Hattersall Hill i'r locals), lle fuon ni'n dilyn llwybr Clawdd Offa, efo'n traed chwith ni yng Nghymru a'n traed dde ni yn Lloegr.


Caeau glas a gwrychoedd am filltiroedd, ar un llaw. Ffriddoedd a chreigiau ar yr aswy. Aur dan y rhedyn ar diroedd cyfoethog Swydd Henffordd, a newyn dan y grug ar fynyddoedd Mynwy.

Mi fuon ni'n crwydro'n lleol hefyd, rhwng cawodydd yn bennaf! Bu'r Fechan a finna yn pori mewn map a rhestru 37 llyn o fewn ffiniau plwyf Ffestiniog, a gosod her i gerdded at lan bob un ohonynt.
Mae'r amserlen wedi ymestyn erbyn hyn i: "cyn diwedd y flwyddyn" ar ôl methu cael digon o ddyddiau sych pan oedd gen' i wyliau haf!

Efallai bydd ambell lun a hanesyn o'r her yn ymddangos yn fan hyn. Gawn ni weld...




2.8.16

Glaw

Dwi isio rhegi. Isio crïo. Gwaeddi.

Mae'r glaw di-baid; dyddiol; cyson, yn ddigalon. A dim golwg am ddiwedd arno.

'Run ffordd dwi'n mynd allan yn hwn...

Ychydig funudau cyn hanner nos ar noson ola' Gorffennaf, roedd dyn tywydd y BBC yn canmol bod Ynys Wyth wedi cael eu mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, efo dim ond 1.4mm o law. Ia, un pwynt pedwar! Ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd y crinc yn dweud "some welcome rain has watered the gardens of southern England..."    !#*&$*#!

Ar fore diwrnod cynta Awst, mi es i hanner ffordd i fyny ochr ddeheuol Cadair Idris (yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr y warchodfa natur yno), er mwyn mesur glawiad mis Gorffennaf.

393mm. Ia, pymtheg modfedd a hanner!

Neis de! Ac mi ges i socsan wrth gerdded i fyny yn y glaw hefyd.


...ond wedyn dwi'n cofio be oedd ffrind coleg yn ddeud ers talwm...
"Mae 'na bobl yn llwgu ym Mwlch Tocyn".

Ac mae 'na bobl yn y byd sy'n byw mewn ofn, mewn rhyfel, heb gartref, heb ddŵr glan, heb hawliau sylfaenol... gwell peidio cwyno gormod am y tywydd s'bo.

Tynged y ceirios wrth aeddfedu yn y glaw...