Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.11.15

Nôl at y gwreiddia'

Gwynt mawr yma heddiw, ond o leia' gawson ni ddwyawr sych amser cinio i nôl coed tân a chodi rhywfaint o lysiau hwyr yn yr ardd gefn!


Dal i hel moron. Moron bach melys, o heuad hwyr.
Mae tri chwarter rhesiad dal yn y ddaear. Haws eu codi fesul dipyn dwi'n meddwl; haws na'r hen strach o'u codi i gyd, wedyn eu storio mewn bocs efo tywod.
Nes cawn ni rew caled beth bynnag. Bydd rhaid eu codi wedyn am wn i.

Mae'r dail gorfetys (chard) yn dal i edrych yn dda hefyd.
A'r oca eto i ddod ar ôl i'r rhew ladd y gwlydd.


Y Pobydd wedi rhoi'r cnwd bach yma efo tomatos olaf y tŷ gwydr mewn cawl llysiau a ffa.


Mmm...pawb yn gynnes braf rwan..



22.11.15

Triawd y Migneint

Nid yw nef ond mynd yn ôl, hyd y mannau dymunol.*

Tydi'r rhain ddim yn luniau arbennig o dda; dim ond cofnod o ddwyawr dymunol ar y mynydd efo 'nhad ac un o'r genod heddiw. Diwrnod gaeafol ac oer, ond yn bwysig iawn: diwrnod sych!

Graig Lwyd, Drum, Llyn Morwynion
Chwarel Bryn Glas; cymylau duon a'r Moelwynion
Ffestiniog 4½ Yspytty (Ysbyty Ifan) 6½

Mwydryn, Pry' Llyfr, a phennaeth y llwyth. Garnedd, Foelgron, Llyn Morwynion



























Cyrraedd 'nôl adra a chael cawl poeth blasus, a chynnau tân yn y grât am y tro cynta' ers y gwanwyn.
--------------------------------------

*Cwpled hyfryd y mae Nhad wedi bod yn adrodd yn rheolaidd ers blynyddoedd, gan fardd lleol na wyddwn i ddim byd mwy amdano, yn anffodus, na dwy frawddeg yn Narlith Flynyddol Cymdeithas Y Fainc Sglodion, 'Stiniog, 1988, gan Moses Jones.
Mae’r ddarlith yn dechrau:
Nid yw nef ond mynd yn ôl,
Hyd y mannau dymunol.

Un o fechgyn y Blaenau, y diweddar Owen Morgan Lloyd, biau’r gwpled uchod, ac mae llawer ohonoch yn ei gofio ‘rwy’n siwr, fel Gweinidog a Phregethwr a bardd o ddawn arbennig iawn. Teyrnged i’w hen ardal sydd gan Owen Morgan yn y llinellau hyn.”


[Argraffwyd gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd. 
ISBN 0 904852 60 1]



11.11.15

Stwffio tomatos

Hen flwyddyn sâl i dyfu llysiau oedd hi'n fan hyn.

Ches i ddim un bwmpen. Dim un. Ar ôl eu tyfu o had a'u meithrin yn y tŷ gwydr, roedden nhw'n blanhigion da, ond yn hwyrach o lawer yn prifio. Wedyn, ar ôl eu caledu a'u plannu allan yn yr ardd ac ar y rhandir, mi drodd y tywydd yn sâl ac yn oerach eto.

Er gwaetha' ymdrechion i'w gwarchod efo plastig drostynt, erbyn iddyn nhw ail-ddechrau tyfu'n gryf, roedd hi'n rhy hwyr i'r ffrwythau bach ddal i fyny cyn diwedd y tymor. I'r compost aeth y cwbl, a'r bwmpen fwya'n ddim mwy na maint afal.

Tomatos hyfryd ildi
Mi wnes i'n well efo pys a ffa. Ond mae'r tomatos bron a drysu 'mhen i. Dim ond yn y tŷ gwydr mae'n bosib tyfu tomatos yma, ond efallai nad ydi tŷ gwydr di-wres yn ddigon chwaith... a'r gwahaniaeth rhwng tymheredd y dydd a thymheredd y nos yn rhy eithafol.

Tyfodd chwech o goed -moneymaker ac ildi- yn dda, ond efo'r diffyg haul am y rhan fwyaf o'r haf, roedd y ffrwyth yn hir iawn yn aeddfedu. Ac wedyn dim ond fesul hanner dwsin oedden ni'n medru eu hel nhw. Dim gobaith am 'glut' yn fan hyn!

Tomatos moneymaker yn cochi fesul 'chydig
Fel llynedd, ddaeth yr aflwydd blight ddim ar y tomatos, ac efo'r hydref mwyn, maen nhw'n dal i dyfu. Ond asiffeta, mi fysa'n braf medru hel pwysi o domatos ym mis Medi...!

Dal yn fwyn yn wythnos cynta' Tachwedd
Dwi wedi llyncu mul efo tomatos o'r blaen, a pheidio'u tyfu am ddwy flynedd. Mae'n demtasiwn i ddeud "Wfft i domatos; stwffio nhw" eto! Gawn ni weld...