Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.7.15

Cwt coed a draenogod

Mae o leiaf un rhan o'r ardd gefn yma mewn llanast ac anhrefn ar ryw adeg trwy'r flwyddyn.

Wrth inni ddod i ben efo creu'r ardd fesul darn, rydan ni'n arbenigwyr mewn symud pethau o un lle i'r llall; dybl-handling a hanner. Mae'n teimlo weithia fel bo' angen gwneud tri neu bedwar peth cyn allwn ni wneud y joban sydd dan sylw. Mynd rownd mewn cylchoedd...

Ta waeth, gwaelod yr ardd sydd wedi cael y sylw diweddara' (ardal 12 ar y cynllun).

Mae prinder lle i gadw coed a phren yma, felly mi godais gwt bach newydd. Roedd yn rhaid i mi dalu am goed y ffrâm, ond roedd y gweddill yn stwff oedd yma'n barod, gan gynnwys offcuts to newydd Garej Paradwys.


Ymhell cyn codi'r cwt, bu'r Fechan a finna'n gwneud 'tŷ bach clyd' ar gyfer y draenog sy'n galw yma bob haf. Blaenoriaethau!


Mae'r ardal yma ar lethr ac roedd angen ail-adeiladu'r grisiau i lawr yno efo llechi oedd o gwmpas y lle, a dwi wedi lefelu'r tir rhywfaint i gael lle i lifio a hollti coed tân ac ati. Mae casgen ddŵr yn dal y glaw oddi ar do'r cwt i ni gael manteisio rhywfaint ar dywydd Stiniog i osgoi cario dŵr 'nôl a mlaen yno.


Roedd angen clirio'r ddaear wrth fôn y goeden eirin (eirinen Ddinbych) hefyd. Tydi honno heb gynhyrchu ffrwyth ETO eleni, o bosib am fod gormod o blanhigion yn cystadlu am ddŵr a maeth o'i chwmpas hi.

Da' ni wedi gwasgu un gwely ychwanegol i mewn hefyd; gwely fydd yn y cysgod am y rhan fwya o'r diwrnod. Gwaith cynllunio at eto fydd plannu hwn.

Edrych lawr i gyfeiriad y cwt newydd, a thwmpathau o goediach yn barod i fynd i fewn iddo.
Am rwan, mae'n braf cael clirio'r coediach sydd wedi bod o gwmpas y lle 'ma, a gweld yr ardd yn altro fesul dipyn. Dim ond un lle -ochr ucha'r trampolîn- sydd angen sylw mawr rwan, a byddwn ni wedi gorffen (!).
------------------

Gair cyn cloi i ddiolch i'r Cneifiwr am ei eiriau caredig wrth iddo gau'r blog bu'n cadw ers 2011; blog difyr am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol. Bydd biwrocratiaid Sir Gâr yn cysgu'n brafiach wrth i'r Cneifiwr dawelu, ond bydd chwith ar ei ôl o.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau