Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.6.14

Ysbeidiau heulog

Hen dro 'de. Llanast peldroed Lloegr 'lly.
Na, 'mond tynnu'ch coes! Mae'r holl beth yn ddoniol tu hwnt. Ond y malu llechi ailadroddus a rhencian dannedd hyd syrffed ar y teledu yn ddiflas tydi.

Baner Uruguay- llun Wikimedia
Dwi'n hoffi baner Uruguay, yn enwedig wsos yma.

Gan Gymru mae'r faner fwya trawiadol yn y byd wrth gwrs, ond pwy fysa ddim isio haul i'w cynrychioli nhw? Yn ol wicipedia, mae 'haul Mai' yn arwydd o genedl a enillodd annibynniaeth gan Sbaen 200 mlynedd yn ol. Dyna pam bod haul Mai ar faner Yr Ariannin hefyd. Nhw dwi'n meddwl fydd yn codi tlws FIFA ganol Gorffennaf....ond be ddiawl wyddwn i am gicio pel?

Rhan amla', cwrw chwerw cynnes fydda' i'n yfed, ond pan mae'r haul yn t'wynnu, mae'n anodd curo lager oer, yn enwedig fel gwobr fach i dorri syched wrth dyllu neu chwynnu. Rhywbeth fel Sol, o Fecsico, efo'r haul yn amlwg iawn yn yr enw, ac ar y label. 'Mond un neu ddwy cofiwch.
Oce ta: weithiau mwy!



Yn bwysicach na pheldroed a chwrw, mae'r tywydd wedi bod yn anhygoel, a'r arwydd wedi bod allan wrth y drws ffrynt am ddau benwythnos a phob gyda'r nos. Mae llwyth o waith wedi'i wneud yn yr ardd gefn, ond cafwyd digon o gyfleoedd hefyd i chwrae pel, llenwi'r pwll padlo, diogi a darllen, ac ymlacio.


Cario dwr i Stiniog...
Ond, tydi o ddim yn fel i gyd.
Pan mae'r tywydd yn wlyb, mae'r rhandir fel cors.
Mae wythnos heb law, ar y llaw arall, yn troi'r ddaear yno fel concrit! A does yno ddim dwr ar hyn o bryd. Mae pawb yn gobeithio y gall yr hogia injan dan lenwi'r tanc ar eu noson ymarfer nos Fawrth.

Yn y cyfamser, mae angen slogio dwr yno o adra bob deuddydd!
Coeliwch fi, dwi ddim yn un sy'n swnian am yr haul. Ond bysa hi'n dderbyniol iawn cael awr o law trwm rhwng 3 a 4 o'r gloch y bore bob yn ail diwrnod!



 Tydi'r marchysgall ddim yn meindio'r sychder o gwbl. Mwy na thebyg eu bod yn mwynhau'r gosteg anghyfarwydd yn y glaw.

Tydi'r sychder heb rwystro'r bali slygs chwaith. Dyma be sydd ar ol o'r planhigyn pwmpen Amazonka. O'n i wedi'i blannu yn y bels gwellt gan feddwl y byddai amodau sych, pigog y gwellt yn cadw'r diawled i ffwrdd. Arfbrawf dwy-a-dima!

Yn groes i'r disgwyl, mae'r bwmpen las (crown prince) yn gwneud yn dda yn un o'r gw'lau, heb unrhyw ddifrod.

Mae gen' i un Amazonka arall mewn pot mawr, ond efallai nad oes digon o'r tymor ar ol i hwnnw ddal i fyny...

Mae angen amynedd Job a William Jones.

10.6.14

Mynd a dod

Dilyn fy nhrwyn yn yr ardd ar droad y rhod.

Digwyddodd, darfu...
Rhai o'r blodau gwanwyn efo ogla' sydd wedi mynd tan y flwyddyn nesa eto:

Lelog fach. Syringa pubescens patula- ogla arbennig dan y lein ddillad!

Azalea felen- Rhododendron luteum -wedi'i chodi o goedwig leol. Llenwodd yr ardd efo arogl hyfryd tra parodd.

Banhadlen. Cytisus praecox, apricot gem. Llwyn bler a heglog, ond yn talu am ei le efo'i bersawr melys.
Rhosyn mynydd- yr unig flodau dwbl sydd acw, yn tyfu o ddarn wedi'i godi o ardd diweddar daid y Pobydd. Ogla cynnil. Rhaid i chi fynd i'w 'nol, ddaw o ddim atoch chi fel y lleill, ond hyfryd serch hynny.

Bob yn ail mae dail yn tyfu...
Yr uchod wedi gorffen, ond digon o bethau eraill i gymryd eu lle. Dyma rai o'r blodau fydd acw am yr wythnosau nesa'.

Clychau'r tylwth teg. Erinus alpinus -blodyn bach alpaidd sy'n hadu i bob man. Codi darn ohono o wal gyfagos dair blynedd yn ol, a channoedd yma bellach! Methu penderfynu os ydi ogla hwn yn ddymunol ta'n ddifrifol!


Coeden fe^l oren. Buddleia globosa- o doriad gan gyfaill. Un arall efo arogl sydd rhwng drwg a da; ond fel ei ch'neithar las, yn wych ar gyfer pryfaid.

Rhosyn siapan. Rosa rugosa. Wedi talu am hwn: peth prin! Ond gamp i chi gynnig enw blodyn efo ogla gwell na fo...

Rhoswydden -Eleagnus quicksilver. O doriad gan y gwas priodas! Miloedd o flodau bach, ac ogla i feddwi rhywun.



9.6.14

Yma o Hyd

Aeth hi bron yn ysgariad rhwng Blogger a fi, ond cael bai ar gam oedd yr hen dlawd.
Dwi wedi datrys dirgelwch y lluniau anweledig* ac felly heb lyncu mul efo'r blog!

Ges i ddiwrnod ar y rhandir heddiw, yn yr haul. A'r gwynt.


O'r diwedd, mi blannais i'r holl blanhigion sydd wedi bod yn sgrechian i gael eu traed yn rhydd o'r potiau bach yn yr ardd gefn. Ffa dringo, ffa melyn, pys, india-corn, pwmpenni, courgettes. Hefyd rhai o'r blodau haul, a letys, ac ati. Mae'r bwmpen (Amazonka) ym mlaen y llun wedi'i phlannu yn y gwellt (gw. 'Ar y llwybr cul', Mai 6ed)



Gan ei bod yn rhuo chwythu ar draws y rhandir heddiw, mi wnes i chydig mwy o ymdrech na'r llynedd i warchod yr india-corn. Amser a ddengys oedd o'n werth yr ymdrech....

Mae un o'r planhigion marchysgall yn edrych yn dda eleni, a hanner dwsin o flagur arno'n barod.





Mi fuon ni'n brysur iawn yn yr ardd gefn hefyd dros hanner tymor, a'r haul yn gwenu'n garedig iawn ar y cyfan. Ail-wneud darn o lwybr a gosod bwa haearn, llifio a hollti coed ta^n a'u tasu at y gaeaf, chwynnu, hau, plannu, tocio, a mwy.

Mae cymaint i'w wneud eto yn yr ardd gefn; cymaint o bethau angen sylw, a finnau'n cael trafferth ei dal hi ym mhob man, fel bod ysgariad efo'r rhandir wedi bod ar fy meddwl heddiw hefyd... Dwi ddim yn siwr a fyddai'n well i mi ganolbwyntio ar wneud pethau'n iawn mewn un lle, a derbyn nad oes posib tyfu pob peth..? Serch hynny, does gen' i ddim bwriad o ildio'r rhandir ar ganol tymor tyfu. Gawn ni weld sut aiff pethau dros yr haf.

Priodas, nid ysgariad sy'n gyfrifol am y bwa newydd yn yr ardd gefn. Gof lleol wnaeth o i ni er mwyn dathlu penblwydd priodas arbennig. Bu'r Fechan wrthi efo'r Pobydd yn rhoi 3 cot o baent arno, ac o'r diwedd dwi wedi ei goncretio mewn wsos dwytha. Mae banhadlen binafal (Cytisus battandieri) yn tyfu ar un ochr a dros y brig, a blodau haul wedi eu plannu'r ochr arall, i'w clymu arno wrth iddynt dyfu.


* gweler y darn dwytha'; Colli lluniau, 23ain Mai