Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

1.1.14

'Mofyn am geiniog i ganu

Blwyddyn newydd dda iawn i'r llond dwrn ohonoch sy'n darllen y blog yma. Dyma obeithio am flwyddyn gynhyrchiol, bodlon, ac iach.
 
Cen a chreigiau Ffridd Hafod Ruffydd, a'r Manod Bach yn y cefndir. Crwydro ar ddiwedd Rhagfyr 2013.
    'Nid wy'n gofyn bywyd moethus; aur y byd; na'i berlau man.
    Gofyn wyf am galon hapus. Calon onest; calon lan.'

Ac os ga'i fod mor hy' ag ychwanegu: llond y ty o ffa a ffrwythau; ychydig o haul; a llai o falwod, os gwelwch yn dda!

Dwi ddim yn disgwyl cael yr un o'r rhain ar blat cofiwch. Dwi'n fodlon llafurio a chwysu (o fewn rheswm), a taswn i'n meddwl ei fod o'n mynd i helpu, mi fyswn yn gwneud dawns yr haul yn rheolaidd hefyd. Cyn belled nad oes neb yn gwylio. Na ffilmio ar gyfer Ffesbwc a You've been framed. Dwi wedi cyrraedd oed dawnsio-di-glem-y-tadau yn ol y plant!

Y Fari Lwyd bapur!
Calennig a ch'lennig a blwyddyn newydd dda.
Mi fues i efo'r plant y bore 'ma i ddymuno blwyddyn newydd dda i'r neiniau a'r teidiau, a hel c'lennig ganddyn nhw.

Fel plentyn pryd tywyll, roeddwn yn cael tipyn o groeso ar riniogau Stiniog ddiwedd y saithdegau ac wrth fy modd yn cael 'chydig o daffi triog ac ambell i ddeg cein.

Ddaeth neb ar gyfyl fan hyn eto eleni.

Addunedau.
1. Peidio troi gwydrad o win dros y laptop eto. Mi wnes i hynny ddiwrnod Dolig. Twpsyn! Son am strach. Pediwch a thrio hynny adra gyfeillion, gall fod yn gamgymeriad drud iawn i'w wneud. Damia- mi oedd o'n win da!

2. Peidio trafferthu i dyfu pethau nad ydi'r giang yn fwyta. Mond hyn a hyn o radish a dail salad fedar unrhywun ddiodda'n de.

3. Cynyddu'r ymdrech i brynu hanner acer o dir (trafodaethau sydd wedi bod ar y gweill ers tair mlynedd!)

4. Clirio'r cwt (breuddwyd gwrach!); creu mwy o welyau tyfu yn y rhandir a gwella'r llwybrau; rhoi cynnig ar wneud seidar cartra; crwydro'r fro efo'r genod; ymweld a mwy o erddi; dysgu nabod mwy o fadarch gwyllt; beicio'n amlach; gwneud y pethau bychain; cofio mor lwcus ydw i rhwng pob peth a mwynhau pob dydd.

Llyn Dwr Oer, a'r Manod MAWR yn y cefndir, 29ain Rhagfyr 2013. Y Pobydd a'r Fechan yn sgimio llechi ar y llyn.

Pa mor dda ydych chi am gadw addunedau? Gadewch imi wybod isod.

2 comments:

  1. Anonymous6/1/14 19:04

    Pob hwyl gyda'r seidr! O leia mae'n ddigon oer lle rwyt ti. (Gwres yn amharu ar yr eplesu.) Rwy'n wael iawn am addunedau a ddim yn eu gwneud yn aml. Ond 3 blynedd yn ôl fe ddechreuais fynd i gerdded yn gyflym am awr bob dydd. Gwnes i fe am 8 mis a cholli 8 kilo. Teimlo'n iachach a byth wedi magu pwysau ers hynny.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dwi'n anhebygol o barhau'n hir efo'r adduned i feicio'n amlach mae'n siwr...

      Delete

Diolch am eich sylwadau