Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.3.13

Crwydro -Ynysgain

Er imi fod adra trwy'r wythnos d'wytha, mae trefniadau a gweithgareddau'r plant bob dydd wedi golygu na fuon ni'n crwydro'n bell. Roedd y Pobydd yn gweithio tan Ddydd Iau hefyd, ond mi gawsom ni gyfle i fynd am dro efo'n gilydd ar Ddydd Gwener Groglith o'r diwedd.






Roedd y mynyddoedd yn drawiadol dan orchudd o eira, ond y môr oedd yn denu, felly lawr i Gricieth a ni.









Cychwyn wrth y castell ac ar hyd y traeth i Ynysgain ac at aber Afon Dwyfor, cyn troi'n ôl a dilyn llwybr yr arfordir ar ben y clogwyn. Tro hyfryd iawn dan awyr las a haul isel, cryf. 


Mi welson ni'r madfall gyffredin yma'n torheulo. Y cr'adur wedi ei ddenu o'i drwmgwsg gaeaf gan yr haul, ond roedd y gwynt oer yn ei gwneud hi'n anodd iddo gynhesu mae'n siwr gen' i, ac yn cadw'r pryfaid o'r golwg hefyd. Doedd fawr o hast ganddo i ruthro oddi wrthom ni, ac mi fuodd o cystal ag aros i mi ystyn y camera i dynnu lluniau. 


Roedd ei fol melyn a smotiau duon yn awgrymu mae gwr'w oedd o. Bydd y rhai beinw'n gallach ac yn aros iddi g'nesu 'chydig eto cyn dod allan i fagu. Erbyn hynny bydd hwn wedi magu rhywfaint o gig am ei ganol i fedru denu cymar. Yn y rhostiroedd uchel dwi'n weld y rhain fwya', ond roedd yn wych fod y genod wedi cael gwylio hwn.



Pyllau; plisgyn wyau gwichiaid (whelks); pwrs y forforwyn (cas wyau morgi); sgerbwd draenog môr (sea-urchin); broc môr; cregyn; cerrig; blodau cynnar; gwymon: gallwn dreulio dyddiau ar lan y môr!















Taith fer o ddwy filltir oedd hi, ond yn daith hyfryd, ac yn un oedd wedi gwneud inni deimlo ein bod yn haeddu ychydig o hufen ia gorau'r byd wedyn!








25.3.13

Hwyl, gwyl, a gwaith

Ychydig llai na blwyddyn yn ol, roeddwn wedi cymryd wythnos o wyliau o 'ngwaith, i fod efo'r teulu dros wyliau'r Pasg, ac er mwyn gwneud cant o bethau yn yr ardd a'r rhandir. Ac wrth gwrs mi ddaeth glaw ac eira ar draws popeth!

Dyna pam gychwynais y blog.

Dwi wedi bwcio wythnos o wyliau eto yr wythnos hon, gan fod y plant adra o'r ysgol.
Mae'r ardd a'r rhandir dan drwch o eira!


Be' wneith rhywun felly ond chwarae'n de!















rhosmari a rhew
Mi ydw i wedi llwyddo i wneud chydig o waith paratoi yn y ty gwydr, felly ddim yn teimlo'n rhy euog am beidio cyflawni dim! Dwi'n euog iawn o drin y ty gwydr fel cwt arall i gadw darnau o'r trampolin, a chadeiriau a phob math o stwff. Ar ol dweud am wythnosau fod angen clirio, llwyddais i wneud hynny o'r diwedd heddiw, a'r haul yn tywynnu o'r diwedd trwy'r gwydr.

Mae'r eira a'r rhew yn meirioli, mae cyhydnos y gwanwyn wedi bod, ac mae canu hyfryd y gylfinir wedi dychwelyd i awyr y nos ar ei ffordd i'r mynydd.

Mae amser gwell i ddyfod, ha-haleliwia.




11.3.13

Torri coed

Mae rhywbeth bach yn poeni pawb...

Deud gwir, mae rhywbeth wedi bod yn fy mhoeni ers pum mlynedd: coeden hardd ym mhen pella'r ardd gefn. Wel, tafliad malwen o'r ardd yn y cae dan ty, ond yn gwyro dros yr ardd a'r ty gwydr!

Pan symudon ni yma, roedd hon yn goeden hardd iawn, ac mi fues i'n hir yn ffeindio be oedd hi. O chwilio trwy'r llyfrau daeth yn amlwg mae ffawydden ddeheuol oedd hi (roble beech; Nothofagus obliqua), yn wreiddiol o'r Ariannin a Chili.

Pum mlynedd yn ol, dechreuodd rhai o'r canghennau isaf farw; dyma lun o fis Mehefin 2007.


Roedd ganddi ddau fonyn, ac un ohonynt yn benodol y pwyso dros yr ardd.

O'r 'chydig dwi'n wybod am ddiogelwch coed, roedd yn amlwg nad oedd y goeden yn iach, efo gwendid yn y fforch, a ffolineb fyddai anwybyddu'r peryg. Felly dyma fi'n holi perchennog y cae yn 2008, am ganiatad i dorri'r bonyn agosaf, ac er ei fod o'n fodlon, defnyddiodd y geiriau dychrynllyd tree preservation order.  Roedd gorchymyn gwarchod ar y goeden, ac nad mater bach oedd delio efo biwrocratiaeth yr awdurdod lleol!

Daeth dyn coed y sir yma a chytuno bod angen torri'r bonyn agosaf.
"Hwre!" medda' fi.
"Howld on" medda' fo! "Rhaid i ti gael adroddiad gan arbennigwr, a llenwi ffurflen".

Llun oddi ar Wikipedia Commons
Dwi'n ymdrin a diogelwch coed bob hyn-a-hyn yn y gwaith, felly mae gen i ryw syniad am y maes,  a fo oedd swyddog coed y sir; y ddau ohonom yn cytuno ar be oedd angen wneud i osgoi'r posibilrwydd i'r plantos gael eu sgwashio gan gangen. Ond eto, roedd angen i mi dalu £120 i rywun arall roi hynny mewn adroddiad! Sefyllfa dwp. Nid ei fai o'n bersonol; 'mond negesydd oedd y cr'adur, ond chafodd o ddim cynnig aros i de y diwrnod hwnnw!

Dwi'n gadwraethwr sydd yn hygio coed, ond mewn difri' calon, biwrocratiaeth fel'na sy'n rhoi enw drwg i waith papur yn'de.

Er cywilydd i mi, wnes i ddim talu, gan gamblo efo diogelwch pawb a phopeth yng ngwaelod yr ardd. Ond, o flwyddyn i flwyddyn, o'r gwaelod i fyny, mi farwodd y goeden.

Daeth dyn coed (newydd) y sir acw ddiwedd haf y llynedd. Cytunodd fod y peryg yn amlwg iawn erbyn hyn, ac argymell towlyd y goeden gyfa', dim ond i mi blannu coeden arall yn ei lle.
 
Meiri lle bu mawredd-
Dyma fi bythefnos yn ol yn strimio tagfa o fwyar duon o amgylch y goeden ac o ddarn digon mawr i lifio a chlirio'r goeden ar ol ei chwympo. Roedd tyfiant trwchus y mieri yma yn dalach na fi mewn llefydd, gan na fu defaid yn pori yno ers degawd, ac mi gymrodd dair awr dda o waith.






Trosglwyddo wedyn i grefftwr ar gyfer ail gymal y gwaith, sef dringo'r goeden a datgymalu'r canghennau uchaf.













Roedd gwylio Jon yn trin ei lif a'i raffau yn bleser. Gwell o lawer na gwylio teledu!














O fewn dim roedd y goeden ar lawr, ac oriau eto o waith o mlaen i, yn llifio'r bonion yn ddarnau troedfedd yr un, eu hollti'n goed tan, a'u symud i'r cwt i sychu, ac i bob twll a chornel o le oedd ar gael yn yr ardd, ar gyfer y gaeaf nesa'.









Pan gymris i bum munud i fwynhau paned yn yr haul (chwarae teg, maen nhw'n cael paned yn jêl cofiwch), mi ddaeth y Fechan ata'i er mwyn cyfri' cylchoedd y bôn.

Er ei bod tua 40 troedfedd o uchder a 22 modfedd o drwch, dim ond 25 oed oedd hi.
Mae hyn yn cyd-fynd a hanes ei phlannu hi gan gymydog, ac mi welwch mor lydan ydi'r cylchoedd yn y llun isod, gan adlewyrchu prifio cyflym iawn bob blwyddyn.


.
Mawredd lle bu mieri?
Cytunodd dyn coed y sir y gallwn blannu coeden afal i wneud yn iawn am dorri'r Nothofagus, a dwi'n gobeithio y bydd perchennog y cae yn caniatau imi gadw'r darn yn glir, er mwyn cael cnydau trwm o afalau croen mochyn am y pum mlynedd a'r hugain nesa'.





8.3.13

Grifft

Grifft llyffant yn y pwll gwyllt drws nesa' i'r rhandir, pnawn 'ma.


A dyma glip rhyfeddol gan Gareth T Jones, oddi ar YouTube, yn dangos llyffantod yn rhuthro ar draws eu gilydd i barhau'r hil, a hynny gwta filltir lawr y dyffryn ar ffordd Stwlan, ychydig ddyddiau'n ol.


Mae'r swn yn wych!
Dyma edrych ymlaen i weld llu o lyffaint ar y rhandiroedd dros yr haf, yn bwyta slygs.




5.3.13

Pry' blodyn

Pryf hofran gynta'r flwyddyn yn yr ardd gefn ar ddiwrnod ola'r mis bach; yn hel paill ar y bocs gaeaf (Sarcoccoca).


Mae 280 math o bryf hofran ym mhrydain, ac mae'n anodd eu nabod heb eu lladd a'u hastudio o dan y meicrosgop, ond mae'r bwa yn un o wythiennau adenydd hwn, yn ei roi yn y teulu Eristalis*.

Y rhain sy'n treulio cyfnod o'u bywydau fel larfa efo cynffon hir, mewn pyllau dwr budr, tomenni tail a biswail, neu fwd. Mmm: hyfryd.

Rat-tailed maggot ydi'r enw deniadol iawn arnynt yn yr iaith fain!

Mae rhai o'r teulu Eristalis yn byw trwy'r gaeaf fel oedolyn, ac yn dod allan i fwyta ar ddyddiau braf. Dyna oedd hwnmae'n siwr.



Neu hon ddyliwn i ddweud. Mae'n hawdd gwahaniaethu rhwng gwryw a benyw: mae llygaid y gwryw yn cyffwrdd eu gilydd, a llygaid un fanw arwahan.



Mae astudio pryfaid yn faes arbennigol sydd ddim at ddant pawb, felly wnai ddim hefru a diflasu.


Pawb at y peth y bo medden nhw, ond dwi'n eu gweld nhw yn grwp diddorol iawn.


Un peth dwi ddim yn hoff ohono ydi'r term 'pryf hofran' sy'n drosiad amlwg o hoverfly. Yn yr Unol Daleithiau, maen nhw eu galw nhw yn flower fly, sy'n cyfleu yn well lle mae rhywun yn eu gweld nhw amlaf. Efallai y dyliwn ni eu galw nhw'n bryfed blodau.

Pry' blodyn... ia, neisiach o lawer na be' ellid eu galw fel larfa.



*  i'r anoraciaid sydd mor drist a fi, gallwn ddefnyddio allwedd er mwyn canfod y rhywogaeth:

O ddefnyddio 'Colour key to the tribes of the Syrphidae'. Ball, S  [cyhoeddiad-Hoverfly Recording Scheme 2010], mae'r bwa yng ngwythien R4+5 yn ein harwain at y llwyth ERISTALINI.

Hwn yn ein cyfeirio at dudalen 138 ym meibl y pryfed blodau sef 'British Hoverflies. An illustrated identification guide'. Stubbs, A & Falk, S [Brit. Entomological and Natural History Soc. 2002], lle mae cwpledi'r allwedd (1. gwythiennau R1 a R2+3 yn ymuno i ffurfio coesyn cyn ymyl yr adain; 2. Scutellum ddim yn ddu) yn ein harwain at y genws ERISTALIS.

O gwpled cyntaf Eristalis (rhesen ddu lydan ar wyneb y pry) rydym yn cyrraedd y rhywogaeth, sef Eristalis tenax, dynwaredwr gwenynen fêl wrywaidd, y drone, ac yn gyffredin iawn trwy Gymru.