Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.9.13

Fel gwydr o ffwrnais awen

rhosyn Siapan
Er mai tlawd braidd ydi'r cnwd afalau Enlli acw, eto'i gyd mae'n flwyddyn aruthrol am afalau tydi. Mae'r afalau cochion ym mherllan gymunedol Plas Tanybwlch, ac ambell ardd yn demtasiwn direidus!

Mae arwydd 'Cytunwyd ar werthiant' wedi ymddangos ar y ty drws nesa' a neb yn siwr pwy ydi'r prynwr, felly dwi ddim yn debygol o gael hel afalau'r diweddar Deio eleni.

Rhaid bodloni ar helfa o afalau surion felly, ac mae'n flwyddyn arbennig i'r rheiny hefyd ym Meirionnydd, a'r ffrwythau'n tyfu fel grawnwin ar ambell goeden.





Mi helis i driphwys er mwyn gwneud jeli.
Dwi'n reit hoff o'u cyfuno nhw efo eirin tagu i wneud jeli siarp i fynd efo caws a chig, ond mae'n flwyddyn ddifrifol o sal i eirin o bob math o'r hyn wela' i yn lleol.






Dyma fentro felly, am y tro cynta', i ychwanegu egroes (mwcod; rosehips) i'r sosban efo'r afalau bach.



Rhwng y ffrwythau tew oddi ar y rhosyn Siapan (Rosa rugosa; isod) yn yr ardd gefn, a llond poced (!) oddi ar rosyn gwyllt gerllaw, roedd gen' i bwys o egroes.


Mae ambell un ohonoch yn ddigon caredig i ddychwelyd at y blog yma o dro i dro, ac wedi sylwi efallai, 'mod i'n gwneud fy ngora glas i beidio gwario pres yn ddiangen! Gall rhywun wario bom ar offer i wneud jeli, ond yr unig beth sy'n hollol angenrheidiol ydi bag mwslin. Yn enwedig os yn delio efo'r hadau a'r blewiach sydd mewn egroes. Da chi ddim isio hwnnw yn eich jam! Ond heblaw am hynny a sosban dda, does dim wir angen tacla a dyfeisiau drud.

Dwi'n hongian y bag ar fachyn o dan un o gadeiriau'r gegin, a honno wedi ei gosod ar y bwrdd efo cwpan o dan bob coes!


Rhywbeth arall dwi ddim yn talu fawr o sylw iddo ydi'r angen i adael i'r trwyth ddiferu dros nos. O 'mhrofiad i, mae'r llif yn arafu i ddim o fewn awr, a dim ond llond gwniadur ddaw ohono wedyn.

Lolbotas ydi'r pwyslais ar beidio gwasgu'r bag hefyd yn fy marn i. Isio bwyta'r jeli ydw i, dim edrych arno, felly os nad ydych yn bwriadu cystadlu yn eich sioe leol, gwasgwch y stwff i ebargofiant. Ond gadwch iddo oeri 'chydig gynta: mae o'n beryg bywyd am awr neu ddwy!

Mi wnes i gamgymeriad y tro yma dwi'n meddwl. Bysa 'di bod yn well taswn i wedi berwi'r egroes arwahan i'r afalau, er mwyn eu meddalu chydig mwy. Ta waeth. Gorau arf, dysg.

Mi ges i 1.2 litr o hylif, felly dyma'i ddychwelyd i sosban lan, ac ychwanegu 900g o siwgr wrth iddo g'nesu. Dyma lle mae'r alcemi rhyfeddol yn digwydd. Mae'r siwgwr yn troi'r hylif o fod yn gymylog a gwael ei flas, i fod yn sudd gloyw, blasus, gwych.

Hud a lledrith. Fel toddi gwydr ar gyfer ffenest eglwys. Llond potiau o ambr melyngoch hyfryd.


Byddai berwi'r egroes yn hirach wedi rhoi mwy o gochni i'r jeli mae'n siwr ond dwn 'im faint yn fwy o flas fyddai wedi ychwanegu. Fel y mae pethau, mae hanner dwsin o botiau o jeli hynod flasus acw rwan. Ac mi gawson ni rhywfaint efo sgons yn gynnes o'r popdy, a menyn hallt Cymreig.

Mwyar duon fydd nesa, ar ol imi hel digon o fynadd i olchi'r holl lestri a geriach eto!


21.9.13

Bore glawog..

Da 'di Steve Eaves. *
Mae digon o ddeunydd penawdau yn ei ganeuon i gadw blogiwr yn hapus!

"Bore glawog. Cymylau uwchben.
Hel meddyliau: maen nhw'n troi yn fy mhen..."

Mae'n ddydd Sadwrn. Cyfle i ddal i fyny efo cant o jobsys sy'n aros am sylw ar y rhandir. Ond na;  wrth gwrs, mae'n bwrw glaw eto! Niwl at y llawr; a glaw, glaw, glaw.

Typical. Pan oedd yn braf ddydd Sadwrn dwytha, o'n i 'di mynd i Wrecsam i weld Mantell Aur yr Wyddgrug, cyn iddi orfod mynd yn ol i'r ogof lladron yn y Brijis Miwsiym.
Roedd yn syfrdanol o hardd, a dirgelion ei chreu a'i chladdu yn ychwanegu at y wefr o'i gweld.


O wel, gan ei bod yn bwrw, mae'n gyfle i wneud 'chydig o jam a phobi. Mwy ar hynny fory e'lla. Cyfle prin hefyd i roi traed i fyny efo panad a phapur, a syrffio rhywfaint ar y we, yn ogystal a mwydro'n fan hyn!

Braf ydi gweld blog newydd yn ymuno a'r blogfyd Cymraeg. Mae digon o'u hangen nhw.

Ewch draw i safle 'Cadw Rhandir' i weld sut hwyl mae Arfon a Marika'n gael wrth sefydlu rhandir newydd yn y Groeslon.+


Mae cael ail arddwr yn amlwg yn talu ar ei ganfed wrth glirio a thyllu. (Taro'r post i'r Pobydd glywed...)  Pob lwc iddyn nhw. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddilyn eu hynt.

Gweld hefyd o flog Bethan Gwanas, bod S4C wedi claddu'r enw 'Byw yn yr Ardd', wrth i'r gyfres newydd ddilyn ymdrechion pobl dda Nyffryn Nantlle i dyfu bwyd. Mae datganiad y sianel ar arlwy'r hydref yn deud: "nid cyfres arddio gyffredin mo hon. Mae Tyfu Pobl yn gysyniad cwbl newydd ddylai apelio at gynulleidfa fodern a blaengar.' Hmm, iawn.. amser a ddengys, ond dwi'n edrych ymlaen yn arw beth bynnag.

Wnes i fwynhau cyfweliad Dewi Llwyd efo Medwyn Williams yn ddiweddar. Ar y cyfan. Mae'r garddwr o Fo^n yn siaradwr huawdl a hwyliog. Yn angerddol am ei lysiau, a dywediadau ac idiomau cyfoethog ein hiaith yn britho'i sgwrs. Biti ei fod o'n mynnu cyffwrdd ei gap i deulu brenhinol drws nesa..

Dwi'n dal i gario tomatos o'r ty gwydr, er bod nifer ohonyn nhw'n dangos ol cam-ddyfrio. Ew, maen nhw'n dda hefyd. Felly ar ol pwdu efo tomatos ddwy flynedd yn ol, dwi'n falch bod y Pobydd wedi dod a nhw eleni.

Digon o bys a ffa i ddod eto o'r rhandir, a thatws ac oca, a gyda lwc pwmpen neu ddwy. Os can nhw lonydd gan y slygs melltith!

Dyna ddigon o falu awyr! Mae'r sgons a'r jam yn galw.



Gan fod hwn yn ysgrif rhif 101, dwi'n meddwl y galla'i fentro i roi rhywbeth yn ystafell fondigrybwyll 101, sef y lle i yrru cas bethau.

Be' dwi'n ddewis felly? Tlodi? Rhyfel? UKIP?

Nage: ci Monty Don sy'n ei chael hi. Mae o'n da^n ar 'y nghroen i sut mae cyflwynydd Gardener's World yn siarad efo'i gi, Nigel, bob wythnos, fel petai o'n gyd-gyflwynydd. Hurt bost a diflas!
Hwyl am y tro.

* Un o amryw o ganeuon Steve Eaves ar Youtube efo'r lyrics ar y sgrin yn fan hyn.

+ Blog Cadw Rhandir.

4.9.13

Mafon Gwin a blog rhif 100

Tydi mafon yr hydref ddim yn gynhyrchiol ar y rhandir eleni, ond tydi hi ddim yn ddiwedd y byd, gan fod y mwyar duon yn gwneud yn dda yn yr ardal. Mae'r Fechan a finna wedi hel digon i wneud potiad bach o jam yr wythnos d'wytha, ac mae o wedi mynd yn gyflym iawn. Cawn gyfle eto'r penwythnos nesa 'ma, os cadwith yn sych, i hel cnwd, er mwyn gwneud jeli.

Ar hyn o bryd hefyd, mae planhigyn arall sy'n tyfu'n wyllt yn lleol yn llawn ffrwythau cochion tlws; fel goleuadau bach llachar dan ganghennau coeden ddolig. A deud y gwir, dyma'r flwyddyn orau imi weld erioed yma.

Mafon gwin ydi'r ffrwyth -Rubus phoenicolasius. Japanese wineberry ydi'r enw Susnag arno. Dwi'n meddwl mae planhigion wedi denig o ardd sydd yma, neu o gynllun plannu trefol ar gyrion maes parcio neu rywbeth.. ond maen nhw'n blanhigion ymledol iawn, sy'n gwreiddio -fel eu perthynas, mwyar duon- bob tro mae cangen yn cyffwrdd y llawr.

Geiriadur yr Academi sy'n cynnig mafonen win fel enw Cymraeg, ond (er nad ydw i'n gwybod be ydi geneteg y planhigyn, Rubus ydi bob un) mae ei natur tyfu yn debycach i fwyar nag i fafon. Byddai mwyar cochion yn enw addas efallai.. ond dwi ddim yn mynd i golli cwsg dros y peth chwaith!
Bydd yn werth gwneud gwin efo nhw yn y dyfodol e'lla, ond mae nhw'n sicr yn flasus fel pwdin syml.


Gemau cochion. Dyma faint fedrwn gario mewn dwy law, cyn mynd yn ol i hel mwy!
Berwi'n ysgafn am bum munud efo 'chydig o ddwr a 'chydig o siwgwr brown meddal. Gwasgu trwy ridyll er mwyn tynnu'r hadau, a'i dywallt ar ol oeri dros iogwrt tew groegaidd.   Arbennig!
Hel digon i wneud ychydig botiau o jeli fydd y gamp rwan.


Mae'r Arlunydd wedi dathlu canlyniadau TGAU a phenblwydd ddiwedd Awst. Esgus i'r Pobydd greu campwaith o gacen eto! Ffordd dda iawn hefyd o ddathlu bod y blog wedi cyrraedd cant o ysgrifau!


"Yn olaf", fel maen nhw'n ddeud ar y newyddion... un o ffa Nain a Taid Cae Clyd wedi codi gwen!