Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

7.4.13

Tra bo hedydd

Un o ganeuon Dafydd Iwan ddaeth i'r cof ddoe.

Tra bo hedydd ar y mynydd;
tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid,
mi wn mae ni pia hon.

Cytgan hyfryd. Cân sydd heb gael y sylw haeddianol.

Beth bynnag, roedd y Pobydd wedi'n gadael ni am ddiwrnod o hwyl mewn gwisg ffansi, ar noson iar yng Nghaernarfon, felly mi aeth y genod a finna am dro, efo 'nhad, i chwilio am yr haul ar Fryn Castell, rhwng Cwm Teigl a Chwm Cynfal.

Bryn Castell

Am saith y bore, roedd y tymheredd yn -0.8 gradd C, ond erbyn ganol y pnawn roedd hi'n 14 gradd, a'r mynydd yn galw.

O ffordd y Migneint, uwchben Pantllwyd, 'mond 'chydig o funudau o waith cerdded sydd at safle gwych Bryn Castell, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle, dri-deg mlynedd yn ôl.
 
Y Fechan a'i thaid, pennaeth y llwyth!
Nid castell sydd yno, er gwaetha'r enw, ond safle amddiffynol lle oedd ein cyn-dadau'n cynhyrchu haearn. Ta waeth am hynny, mae'n un o drysorau cudd Bro Ffestiniog*.
 


Copi o garreg Cantiorix, wedi'i gosod rhwng safle tybiedig
Beddau Gwyr Ardudwy a Bryn Castell.
(Mae'r gwreiddiol yn un o gasgliad o gerrig hynafol yn Eglwys Penmachno)





sorod haearn Bryn Castell



 





Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...


                                    *gwybodaeth am Fryn Castell -yn Saesneg- ar wefan heneb gan Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd


4 comments:

  1. Anonymous10/4/23 16:26

    Atgofion melys am y daith Paul. Anodd credu bod cymaint o amser wedi mynd heibio. Diwrnod cofiadwy yng nghwmni 'nheulu bach annwyl. Dad/Taid.

    ReplyDelete
  2. Beryl/nain10/4/23 20:13

    Am braf ...cael cerddad yr un llwybyr efo'i dad ar genod efo nhw tro yma.Mae teulu mor bwysig.xxxx

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau