Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

20.1.13

Eira mân, eira mawr


Dim ond ol fy nhraed i, a'r rhain, oedd ar y rhandir heddiw, a'r safle cyfan dan orchudd o eira glan.


Doeddwn i ddim yn bwriadu gweud dim byd yno, dim ond cymowta a bysnesu, ac i weld sut siap oedd ar y marchysgall yn fwy na dim:



Truenus! Y pedwar planhigyn yn llyncu mul yn llwyr efo fi am eu plannu yn y fath le.















Fawr o obaith am gnwd o ferwr dwr heddiw, a'r pwll bach wedi rhewi.












A'r Moelwyn yn gwisgo'i gap, daeth yr eira eto tra oeddwn yno, a hwnnw'n eira
mân, gan roi coel i'r rhagolygon sy'n gaddo llawer mwy yn ystod yr wythnos.

Dwi'n ysu rwan i gael ail-afael yn y gwaith paratoi, ond yn ddigon bodlon gohirio am ryw hyd, er mwyn mwynhau harddwch yr eira.












18.1.13

Dim ond heddiw tan yfory, dim ond fory tan y ffair

Echdoe:

Y Moelwynion fore Mercher.  "Awyr draeth: glaw drannoeth"  medden nhw.... Anghywir! Am unwaith, chawson ni ddim glaw.


Ddoe:

Y Rybelwr Bach wedi gyrru llun yn dangos pa mor galed ydi hi arnyn nhw yn y chwarel, i gymharu efo'r bywyd braf dwi'n gael!


Heddiw:

Rhybudd tywydd coch neu beidio, doedd dim byd yn mynd i gadw'r Fechan rhag mynd allan i ganol y lluwchio er mwyn taflu mopins at ei thad!

Fory:

Penwythnos! Hwre. Dynion eira; sledio; peint. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna!


Mahonia yn trio'i gorau glas i flodeuo yng ngardd cymydog







11.1.13

Dianc

Rhwng y man-ffliw a'r tywydd giami, doedd dim llawer o gyfle i grwydro dros y gwyliau.
Do, mi fues i a'r Fechan yn hwylfan Llandudno (hen eglwys efo'r enw newydd erchyll: Bonkerz!) tra oedd y dair arall yn cael eu ffics yn siopau 'sgidia'r dre, ond ar ar ol dwyawr a hanner, roedd y miliwn decibel o swn yn hollti fy mhen. Y tu allan, roedd y tywydd yn rhy fudr i fynd at y mor. Adra amdani felly.

Moresg ac awyr ddu Morfa Bychan.
O'r diwedd, a'r cabin fever bron a'n drysu, mi gawson ni ychydig oriau o osteg yn y glaw di-baid i fentro allan am ychydig o awyr iach ar ddiwedd y flwyddyn.


Lawr ar draeth Morfa Bychan, roedd talp o boblogaeth Gwynedd wedi cael yr un syniad a ni, a dwsinau o geir mewn rhes ar hyd y tywod, a phobl a phlant, helwyr broc mor, a chwn a cheffylau, i gyd yn chwilio am ryddhad dros-dro o gaethiwed eu cartrefi.


Roedd hi'n oer. Yn gafael. Y gwynt yn chwipio, a'r cymylau'n bygwth; ond mi fysa'r Pobydd wedi gorfod fy nghlymu fi yng nghist y car i'n rhwystro fi rhag lapio fel nionyn a cherdded i waelod y traeth y diwrnod hwnnw, er mwyn herio'r tonnau efo'r plant, a rhedeg i osgoi cael ein dal gan y llanw, a chwalu'r gwylanod i bob cyfeiriad.

Tro sydyn wedyn hyd blaen y twyni, gan wylio'r moresg crin yn chwifio'n llesmeiriol ar yr awel, fel miloedd ar filoedd o freichiau hir mewn ton Fecsicanaidd di-drefn; yna'n ol i'r car, cyn mynd i chwilio am hufen ia Cadwaladr fel gwobr am ein dycnwch!

Wythnos yn ddiweddarach, daeth awr neu ddwy sych eto, ac mi fuon ni'n crwydro gerddi Plas Brondanw, rhan o stad Portmeirion. (Gallwch lawrlwytho tocyn mynediad gaeaf am ddim o'u gwefan).

Gallai'r ymweliad fod wedi bod yn ddi-gysur. Y caffi wedi cau am y gaeaf; y lawntiau a'r llwybrau glaswellt yn feddal a gwlyb dan draed; ac awyr drom, dywyll uwchben. Fedra'i ddim yn fy myw godi unrhyw frwdfrydedd dros deulu'r Rhododendrons, ond roedd un llwyn o R. arboreum yn uchafbwynt prin ar adeg o'r flwyddyn sy'n llwm ymhob gardd.



Mae Gerallt Pennant yn ei golofn wythnosol yn Y Cymro yn un o brif hyrwyddwyr gerddi'r Plas, a'i ysgrifau o sy'n ein denu ni yno. Soniodd yn ddiweddar am Jasmin y gaeaf (J. nudiflorum), ac mae'r crwydryn eiddil yma'n tyfu wrth y fynedfa. Dim arogl, ond y blodau bach melyn hardda' welwch chi. Digon i berswadio'r pesimist mwyaf y daw eto haul ar fryn!


Mae'r gwrychoedd ywen a ffawydd, a'r topiari yn werth eu gweld os ydych yn gwirioni ar ffurfioldeb mewn gardd, a'r dderwen fythwyrdd anferth sy'n ganolbwynt i'r gerddi bob tro'n werth oedi o'dani am ennyd i hel meddyliau.


Ond daw troad y rhod toc, ac mae prif atyniadau Plas Brondanw eto i ddod. Yn y cyfamser, taro ar fanylion bach sy'n gwneud y gerddi'n werth ymweld a nhw, hyd yn oed rhwng cawod a smwclaw ar ddechrau blwyddyn: ceiliog mwyalchen yn ffrwydro'n floeddiadau croch ar draws y llwybr, a ninnau rhwng dau feddwl ai fo 'ta ni ddychrynodd fwya'; llechen addurniedig ynghanol llwybr; hadau lliwgar y biswydden; a phistyll bach yn corddi pwll dwr.

Dwi'n edrych ymlaen i ddychwelyd eto.







1.1.13

...ac i bawb sydd yn y ty...

Blwyddyn newydd dda, 



a llond y ty o ffa, i chi i gyd.
 


[Mi ges i'r Fari Lwyd o stondin Trac/Ty Gwerin yn yr Eisteddfod fis Awst. Syniad gwych i godi ymwybyddiaeth o un o'n traddodiadau. Y genod fu'n addurno. Gallwch wylio fideo YouTube gan Trac yn fan hyn.]