Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.7.12

Ar y gweill


Gan ein bod wedi cael dau nythiad o gywion mwyalchen eleni, dwi wedi bod yn gamblo braidd efo’r cyrins duon; ddim isio eu hel nes eu bod yn dew a du, ond ddim isio i ormod ohonyn nhw gael eu dwyn gan yr adar chwaith! Bydd yn rhaid trefnu rhwyd neu gawell neu rywbeth at y flwyddyn nesa.


Mi fu’r fechan a fi’n hel y ffrwythau felly, a chael tri phwys. Fydd y cyrins coch ddim yn barod i’w hel am wythnos arall...os na chawn ddyddiau heulog. Pa! Breuddwyd gwrach.

Piciad i’r rhandir wedyn i chwynnu a chlymu’r pys eto. Diwrnod oer eto ar y cyfan, er bod yr haul yn ymddangos o dro i dro am ychydig funudau. Mae pods y pys yn dechrau llenwi rwan, ond er bod y ffa melyn yn llawn blodau, ychydig iawn sydd wedi cnapio hyd yma.

 

Cyn dod o’no, mi es am dro i weld yr ardal wyllt, gyferbyn â’r rhandiroedd. 
Union flwyddyn yn ôl i heddiw, roedden ni’n tyllu pwll er mwyn denu bywyd gwyllt i’r safle. 



Roedd y pwll yn berwi efo penabyliaid yn y gwanwyn, a heddiw gwelais dystiolaeth fod gweision neidr yn magu ynddo hefyd.

Gwäell ddu, fenywaidd ydi hon, newydd ‘ddeor’ heddiw fyswn i'n ddeud. Roedd y lliw aur gloyw wrth fonion ei hadennydd yn drawiadol -mae hyn i'w weld yn well yn fan hyn
Mi dreuliais ddeg munud dda yn trio cael lluniau golew..ac yn weddol hapus efo'r canlyniadau.


Y gweill ydi'r teulu o weision neidr a elwir yn 'darters' yn Saesneg, ac mae'r gweill duon yn magu mewn pyllau mawnog, bas. Gwelais wäell gyffredin yno'r haf dwytha' hefyd, ond heb sicrwydd eu bod yn magu yno.

Ar ôl te, a gwylio uchafbwyntiau’r dydd o’r Tour de Ffrainc, dyma droi’n ôl at y cyrins duon, a’u troi yn wyth pot o jam.

Dwi’n mynd i ‘ngwely rŵan i freuddwydio am dôst!









No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau