Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.12.12

Awr fawr galan

Glaw a chymylau neu beidio, mae'n amlwg fod y dydd wedi ymestyn ychydig o funudau ers y diwrnod byrraf. 'Ta fi ydio?  Beth bynnag, mae ambell i beth arall yn codi'r galon yn yr ardd.

Rhiwbob. Dyma'r tro cynta yn y 12 mlynedd ers inni fod yma, i riwbob ymddangos cyn dechrau'r flwyddyn newydd. Bwcad drosto a gallwn edrych ymlaen i fwynhau hwn yn gynt na'r arfer.

23.12.12

Mae'r glaw yn distaw ddisgyn..

Wedi byw yn Stiniog am y rhan fwya o'm oes, bysa' chi'n meddwl fy mod wedi trio tynnu llun o'r glaw enwog cyn hyn. Ddoe oedd y tro cynta imi drio, am ei bod hi wedi TYWALLT y glaw trwy'r dydd.

Mae'n anodd iawn tynnu llun glaw! Y gorau fedrwn i wneud oedd tynnu llun y diferion ar ffenest y gegin aballu. Mi ges i socsan yn y broses; dwn 'im os oedd o werth yr ymdrech. Ond roedd yn well nag eistedd yn y ty efo Sbwnj-Bob-Pants-Sgwar ar y bocs...

Er gwaetha'r tynnu coes am law Stiniog, rydym yn lwcus iawn yma, ar asgwrn y graig, gan bod ein dwr ni'n rhuthro lawr y dyffryn i Faentwrog. Mae 'nghalon i'n gwaedu dros ein cyd-Gymry sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros y Dolig oherwydd llifogydd.


16.12.12

Oca, Oca, Oca: oi, oi, oi!


Doedd 'na ddim osgoi'r peth ddim mwy. Dwi wedi trio tyfu oca yn yr ardd gefn eleni am y tro cynta erioed. Deud gwir, doeddwn i heb glywed amdano cyn eleni, a heb unrhyw glem faint o drafferth fysa nhw. Mi sgwennais i hyn 'nol yn Ebrill, yn ail bostiad y blog 'ma:

"...ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel .... rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de)."

2.12.12

Torri crib

Wedi bod yn clirio rhywfaint yn yr ardd gefn heddiw, ond o, mam bach, mae gen' i fil o bethau i'w gwneud eto!


25.11.12

Edrych 'nol ac edrych 'mlaen

Dwi wedi dangos y llun cynta 'ma o'r blaen ym mis Mai. Fy nghamera 'go-iawn' cynta i oedd o, ym 1980, a thynnu llun yr hang-gleidar sy' ynghanol y llun o'n i.


Aeth y Fechan a fi am dro y bore 'ma i ben cefnen Bryn Twrog er mwyn trio tynnu llun arall o'r un lle.

18.11.12

Tafodau

Dwi ar dir peryg heddiw o bosib. Y testun ydi tafodau merched.


...hynny ydi, y goeden aethnen -aspen yn yr iaith fain. Tafodau'r merched ydi un o'r enwau eraill yn Gymraeg am y goeden, oherwydd y ffordd mae'r dail yn crynu mewn awel. Peidiwch a saethu'r negesydd; 'mond ailadrodd ydw i! Mae'r enw Lladin Populus tremula yn cyfeirio at gryndod y dail hefyd.

17.11.12

Paid a son am y rygbi..

Wedi mwynhau cwmpeini rhai o rapsgaliwns y dre' neithiwr, a chael cyfle i rannu'r fodca rhiwbob ar ddiwedd y nos, ond ddim wedi mwynhau'r rygbi. Ded los!

Doedd neb yn hel at Blant Mewn Angen yn y tafarnau neithiwr; peth diarth iawn.

15.11.12

Pentwr arall; yna gorffwys

Piciad i'r rhandir y bore 'ma efo sacheidia o ddail crin. Mi ges i un o'r biniau compost mawr gwyrdd am ddim gan y cyngor sir, ac mae'r fam ddaear yn gofalu bod digon o ddail ar gael bob blwyddyn i greu deilbridd am ddim!


11.11.12

Chwyn!

Mae Manon Steffan Ros yn canu ('Pan o'n i'n fach') fod:
"..dant y llew yn chwyn medden nhw, ond welis i'm byd mor dlws".
Gwir y gair. Dim ond planhigyn yn y lle anghywir ydi chwyn wedi'r cwbl, ac mae rhai ohonynt gystal bob tamaid a blodau gardd am edrych yn ddel a denu pryfaid ac adar aballu.

8.11.12

Blewiach, diwrnod 7

Llun o'r mwstash ar ddiwrnod 7. Efallai y byddai'n gwenu erbyn llun diwrnod 14!


Os ydych awydd noddi'r mwstash, a chyfrannu at ymchwil cansar dynion, gallwch wneud hynny ar wefan MOVEMBER

 
.. neu roi swllt neu ddau i mi pan welwch chi fi, ac mi roi'r manylion ar y wefan.

Diolch am gefnogi.

4.11.12

Drannoeth y storm

Mae gen' i atgofion melys o mhlentyndod, o nosweithiau di drydan, a 'mrawd a'm chwaer a finna, yn gwylio stormydd efo'n rhieni. Mi fues i a'r Pobydd a'r plant yn eistedd yn y ffenest neithiwr hefyd (Nos Sadwrn), yn gwylio mellt, ac wedyn cyfri'r eiliadau cyffrous tan y daran.

Fel y storm drydan ddwytha ar y 24ain o Awst, roedd mellt neithiwr yn wefreiddiol, ond y cenllysg oedd yn denu'r sylw mwyaf. Troiodd y tir yn wyn dan drwch o genllysg mewn cyfnod byr iawn.
 



Aeth y Fechan a finne allan ar ein pennau ben bore 'ma i chwarae, ond roedd y gorchudd gwyn wedi rhewi ar y llawr ac ar bopeth arall, ac roedd yn oer iawn cyn i'r haul gyrraedd yr ardd gefn.
 



Dyna ddiwedd ar y letys a'r deiliach salad eraill y tu allan, mwy na thebyg!

(Pwrpas y rhwyd ydi cadw'r cathod melltith rhag gadael anrhegion anghynnes yn y gwely salad!)











Y ganhri goch ydi hon, common centaury, wedi ffeindio'i ffordd rhywsut i'r lawnt. Tydi hi ddim wedi tyfu yma cyn eleni, ac efallai ei bod yn difaru dod i'r ffasiwn le!









Mi gawsom ni fore braf iawn pan gyrhaeddodd yr haul, ond mi oeddwn yn falch o gael mynd yn ol i'r ty am baned poeth hefyd!


Erbyn hyn (Nos Sul), mae'r awyr wedi cymylu, a'r glaw ar ei ffordd yfory o bosib, ond y cwmwl sydd drosta' i heno ydi fod y gwyliau hanner tymor ar ben a phawb yn ol i'r gwaith ac i'r ysgolion fory...


1.11.12

Machlud a mwstash

Deffro heddiw i weld eira ar y mynyddoedd am y tro cynta, er nad oedd y tymheredd wedi disgyn yn is na 2C dros nos. Mi gawson ni -0.2C fore Gwener d'wytha, ond doedd dim golwg o farrug erbyn i mi godi tua'r 7 'ma.
Bu'r haul yn trio'i orau glas i ddod allan heddiw. Mi lwyddodd am rhywfaint, ond diwrnod cymylog llwyd fu diwrnod cynta'r mis ar y cyfan. 

Mi fentrais i'r rhandir ar ol 4, er mwyn hel yr olaf o'r ffa dringo i de, a hanner dwsin o fafon eto. 
Dyna'r olaf o'r cynnyrch am y flwyddyn. Mae digon o waith i'w wneud yno dros y gaeaf, er mwyn sicrhau bod y lle mewn gwell cyflwr erbyn y flwyddyn nesa'.

 
Roedd yr haul wedi diflannu tu ol i'r Moelwyn Bach cyn i mi gyrraedd, ond tra oeddwn yno, daeth twll bach yn y cwmwl a adawodd i belydryn cryf o haul saethu ar i fyny o Fwlch Stwlan, rhwng y Moelwyn Bach a Chraig Ysgafn. Mi lwyddais i'w ddal ar y ffôn cyn iddo ddiffodd eto ar amrantiad. Machlud ar y diwrnod, ac ar flwyddyn aflwyddianus iawn o dyfu bwyd.

Mis Tachwedd - Mws Tashwedd
Dwi wedi mentro i gofrestru efo Movember heddiw, i dyfu mwstash trwy'r mis, a hynny er mwyn tynnu sylw -ac efallai hel ychydig o gelc- at faterion iechyd dynion; yn benodol cansar.
Efallai y rhoddaf lun o'r blewiach yma at ddiwedd y mis i chi gael chwerthin am fy mhen!
Ta waeth, mae llwyth o fanylion am yr ymgyrch ar gael yn fan hyn.








30.10.12

...hei, hei: ble'r aeth yr haul?

Mae'n hen bryd am gynnig arall yn y gyfres Cas Bethau, Hoff Bethau, ond dwi ar ganol gosod silffoedd, ac eisiau mynd yn ol at y gwaith. Bosib mae'r tywydd fyddai'r cas beth, a'r hoff beth yr wythnos hon.

Glaw a niwl heddiw, a nhwtha' wedi gaddo "diwrnod gorau'r wythnos" i ni! Ond dyddiau glas clir yn codi'r ysbryd hefyd ddwywaith-dair yn ail hanner Hydref.

Ffenel. Wedi trio perswadio'r Fechan fod yr hadau yn well na da-das... dim gobaith!


Ambell i flodyn yn dal i drio codi'n calonnau ni ar ddyddiau llwyd.


Dwi wedi colli'r frwydr yn erbyn slygs eleni. Mae'n amlwg yn amhosib eu rheoli heb gemegau ar haf mor wlyb. Mae digon o dyfiant yn y Claytonia, ond does dim un deilen na choesyn sydd heb ei gnoi gan rhywbeth! Dwi'n ddigon bodlon rhannu rhywfaint, ond Esu gria, dwi'n filain i golli'r cwbl-blwmin-lot!





Y cansenni wedi dod i lawr am y flwyddyn bellach. Angen eu golchi a'u cadw dros y gaeaf, ond bydd yn rhaid ffeindio lle newydd i'w cadw rhag i'r fwyalchen ddod i nythu arnynt eto fel eleni.




Efallai mai troi'r clociau 'nol ddylia fod yn gas beth wedi meddwl, a chymaint llai o amser i wneud pethau yn yr ardd, a finnau ddim yn medru defnyddio'r rhandir fel esgus i beidio gosod silffoedd yn y ty!




.

Dyfynnu: 'Hei, hei, hei, hei, ble'r aeth yr haul? Tebot Piws*

* Diweddariad- Sylwebydd di-enw (gweler isod) wedi awgrymu mae'r grwp Bara Menyn ganodd 'Ble'r Aeth yr Haul?' a dwi'n fodlon derbyn hynny gan na fedraf ffeindio ddim byd ar y we amdani. Fi oedd wedi cymryd fod fy nghof plentyn yn ddibynadwy!! Dwi'n ddiolchgar am bob cymorth i gael y ffeithiau'n gywir.

28.10.12

Alpe d'Stwlan

Wedi tywallt y glaw heddiw, a chael cyfle i ddal i fyny efo 'chydig o DIY (o, hwre!). 
Ddoe ar y llaw arall (Sadwrn) yn ddiwrnod anhygoel o braf. 

Ar ôl bod am dro, a 'nôl neges o'r stryd fawr, roedd y genod yn barod i setlo yn y tŷ efo siocled poeth erbyn tua tri o'r gloch, ond roedd yr awyr mor las roeddwn yn benderfynol o fanteisio ar bob munud o'r tywydd braf, er gwaetha'r oerfel. Byddwn i'n fodlon ffeirio haf cynnes, gwlyb, am ddyddiau caled, oer, clir, unrhyw bryd. Naw wfft i dyfu tomatos; mae rhywun yn teimlo'n fyw pan mae'r awyr yn las...

Felly mi es am sbin sydyn ar y beic, a hynny am y tro cynta ers wythnosau os ydw i'n onest (wedi bod yn defnyddio'r tywydd gwael i gyfiawnhau diogi; twt lol..)

Y camgymeriad wnes i oedd mynd amdani yn hytrach na dewis taith hamddenol!
Dyna sut ffeindis i fy hun yn gorwedd ar wastad fy nghefn ar allt Stwlan, ar ôl i 'nghoesa a'n 'sgyfaint fynnu fy mod i'n dod odd'ar y beic am funud i ddal 'y ngwynt! Roedd yr allt o 'mlaen yn dal i godi, a chic mwy serth yn y pen draw yn ddigon i dorri nghalon! Mi edrychais yn sydyn o nghwpas i wneud yn siwr nad oedd neb yn fy ngweld yn rhoi'r gorau iddi -dyna sy'n bwysig i'r ego yn'de: fod neb wedi eich gweld yn baglu!
 
Roedd yr haul wedi suddo tu ôl i'r Moelwyn Bach erbyn hynny (chwarter wedi pedwar, a'r tymheredd wedi plymio. Gallwn weld fod Stiniog yn dal yn yr haul yn y pellter, felly mi drois yn ôl a gwibio i lawr yr allt, yn igam-ogamu i osgoi'r cachu defaid. 

Anelu i gyrraedd yn uwch cyn nogio y tro nesa, a thri chynnig i Gymro i gyrraedd yr argae heb orfod stopio. Pathetig braidd i gymharu efo campau dringo beicwyr eraill, ond mi ddaw, efo dyfal donc. Gobeithio!

Mi ges i gyfle i dynnu ambell i lun sydyn efo'r ffôn, ond tydi'r safon ddim yn arbennig o dda. 
Mae'r gynta yn edrych i lawr hanner isaf inclên y Wrysgan (y mae ffordd Stwlan wedi torri trwyddo). Dwi wedi son dipyn am hwn yn y ddau neu dri post ddwytha. Llyn Tanygrisiau sydd yn y llun ac argae isaf y pwerdy trydan-dŵr, lle fu'r Fechan yn beicio dair wythnos yn ôl. Argae Stwlan ydi llyn uchaf y pwerdy.
Mae allt graddol o'r ffordd fawr at Lyn Tanygrisiau, ond mae'r dringo caled yn dechrau ar y tro sydd yn y llun yma.


Mae'r ail lun yn edrych i fyny hanner ucha'r inclên, at y twll trwy'r graig i'r chwarel.

Oddi ar wefan Calon Eryri ydw i wedi 'benthyg' y llun ola'. Mae o'n dangos troeadau pen ucha'r ffordd. Rhywbeth i edrych ymlaen ato y tro nesa....




24.10.12

Fodca rhiwbob

Ydi. Mae o'n barod. Hir yw pob ymaros.


Mae o'n aeddfedu ers Mehefin, a dwi wedi edrych ymlaen am jochiad ohono ers i mi weld yr awgrym ar flog Hadau. Mae Tatws, awdur y blog, yn rhoi disgrifiad yn fan hyn o sut i'w wneud o, felly wna'i ddim ailadrodd. Dim ond dangos lluniau o'r broses.

Dwi wedi hepgor y sinamon a'r clofs, gan na fedra'i ddiodde'r sbeisus 'gaeafol'; nytmeg ac allspice a star anise aballu.

Deud y gwir, dwi ddim yn yfwr mawr o fodca, felly dim ond potel fach, 350ml wnes i. Ond mae'n well gen i fodca na gin, oherwydd mae blas y ffrwyth yn dod trwadd, yn fwy na blas y gwirod. Yn y gorffennol dwi wedi gwneud fodca eirin tagu, a'r gorau hyd yma ydi fodca llus.

Hel

Chwalu

Trwytho
A'r dyfarniad? Reit neis o'n i'n meddwl.
"Afiach. Ddim digon melys", meddai'r Pobydd! Siwgwr lwmp ynddo fo iddi hi ta..
Tydi o byth yn mynd i guro cwrw du Brains, neu botel o Ochr Tywyll y Mws, gan Fragdy Mws Piws, ond mi fydd o'n dda ar y nosweithiau oer dros y gaeaf, o flaen y tân. Gwell ei adael am rwan tan y penwythnos mae'n siwr. Wel... un fach arall efallai..



22.10.12

Ara' deg mae dal iar

Tystiolaeth o ba mor araf oedd ein taith arfordirol ni! (Gweler y post ddwytha).
Diolch i Gareth am y ddolen.







Dyma ddelwedd o'r sgrin i'r rhai sydd ddim eisiau dilyn y ddolen i wefan Garmin. Diolch eto Gareth, am dy amynedd efo technoleg!



21.10.12

O gribau'r creigiau geirwon

Mae nghalon yn y mynydd, efo'r grug a'r adar mân... ond eto'i gyd mae 'na dynfa ryfeddol at y môr weithia'. Sgwn i fedra'i annog un o'r genod 'cw i briodi mab fferm o Ben Llŷn, efo cwch a photia' cimwch, i mi gael cyfuno'r ddau fyd?!

Dic Jones sy' bia geiria'r pennawd. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo'i gerdd i 'Lwybr y Glannau' tan y penwythnos dwytha, pan es i lawr i Langrannog ar drip blynyddol rhai o'r criw y bues i'n ddigon lwcus i dreulio tair mlynedd yn eu cwmni yn y coleg ym Mangor.

'Da ni'n dod at ein gilydd bob hydref, er mwyn cerdded trwy'r dydd, wedyn yfed 'chydig o gwrw, a thynnu coesau'n gilydd trwy'r nos. Aeth deunaw mlynedd heibio ers inni rygnu trwy'r arholiadau ola' ac mae criw bach ohonom wedi cadw cysylltiad yn llwyddianus ers hynny, diolch i'r drefn.

Mi gawson ni ddyddiau cofiadwy iawn yn y Preseli, Y Bannau, y Ddwy Aran, a mwy dros y blynyddoedd.  I 'Stiniog ddaeth pawb y llynedd, ac mi gawson ni ddiwrnod cynnes braf i gerdded dros y Moelwyn Mawr ac i lawr yr ochr bella' i'r Ring yn Llanfrothen. Roedd hwnnw'n ddiwrnod hir (gan ein bod ni'n defnyddio llawer iawn mwy o egni yn siarad a dal i fyny, nac ydan ni wrth gerdded), felly taith haws ar yr arfordir amdani eleni!
Doedden ni ddim llawer cynt ar lefel y môr chwaith: mi gymrodd hi chwech awr i ni gerdded y tair cilomedr ar ddeg o Langrannog i Gei Newydd! Ychydig dros 2km yr awr. Wel, mae hel clecs a rhoi'r byd yn ei le yn ddiawl o waith caled tydi, ac yn ôl y Pobydd, 'mond un peth ar y tro fedrwn ni ddynion wneud!

Yr haul yn gwenu ar y cyfiawn! Dechrau o draeth Llangrannog, a Charreg Bica.

Tydi'r sgwar ddim digon mawr i'n hogia' ni. 
Digon o amser i lolian a mwydro ar ben clogwyni Penmoelciliau.

Capiau cwyr coch Ceredigion.


Yn anffodus, doedd gen' i ddim map digon manwl i wybod enwau'r cilfachau a'r creigiau a'r nentydd a'r traethau i gyd, ond Pendinaslochtyn ac Ynyslochtyn sydd yn y cefndir yn y llun yma. Roedden ni'n gweld bob cam o Ynys Aberteifi i Ynys Enlli yn ystod y dydd. Peth da ydi aros am eiliad a chofio gwlad mor brydferth ydi Cymru fach.



Un o nifer o ddarnau trawiadol Llwybr Arfordir Cymru.
Llwybr sy'n 870 milltir o hyd (1392km). Os lwyddwn ni i gwrdd am ddiwrnod bob hydref,
dim ond 106 o flynyddoedd ydan ni angen eto ...ac mae Llwybr Clawdd Offa i ddod wedyn! Rôl on.

Mi aethon ni ar ein pennau i dafarn y Dolau wrth gyrraedd Cei Newydd. Mae'r beint gynta wastad yn well na dim byd ddaw wedyn tydi. Hyfryd.
Yn ôl wedyn i Langrannog, gan fwynhau bwyd a diod Y Llong a'r Pentre Arms, a pharhau i roi'r byd yn ei le tan yr oriau mân.
Amhrisiadwy. Diolch 'ogia.

Dyma lun o daith y llynedd. Yn y post dwytha, mi rois i lun o inclên chwarel y Wrysgan. 
Dyma lun (gan Gareth) o ben ucha'r inclên lle mae'n mynd trwy dwll yn y graig. Lle arbennig iawn.



Dyfynnu:

'Nant y Mynydd'. Ceiriog. [eto!]
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân,
Ond mae nghalon yn y mynydd, 
Efo'r grug a'r adar mân.

Llwybr y Glannau, Dic Jones.
Hyd lannau Ceredigion
Mae'r tir a'r môr yn leision,
A golwg ar bellterau'r Bae
O gribau'r creigiau geirwon.