Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.8.16

Crwydro ffiniau

Os dwi'n arddwr drama, blogiwr sâl ar y diawl dwi hefyd, ac wythnosau wedi mynd ers i mi fwydro ddwytha.

Parhau wnaeth y tywydd anwadal: ambell gyfnod braf, ond y rheiny byth yn par'a fawr hwy na deuddydd-dridia' (yn 'Stiniog o leia'). Ond dyna fo, rhaid i rywun wneud y gorau efo be maen nhw'n gael tydi!

Mi fuon ni'n crwydro 'chydig. Ddim yn bell iawn cofiwch, ond wedi cael ymweld â llefydd go arbennig, fel Gerddi Hergest. Rhywle nad oedd yr un ohono' ni'n siwr iawn os oeddan ni yng Nghymru yntau dafliad carreg dros y ffin.
 

A chrib Mynydd y Gadair (neu Hattersall Hill i'r locals), lle fuon ni'n dilyn llwybr Clawdd Offa, efo'n traed chwith ni yng Nghymru a'n traed dde ni yn Lloegr.


Caeau glas a gwrychoedd am filltiroedd, ar un llaw. Ffriddoedd a chreigiau ar yr aswy. Aur dan y rhedyn ar diroedd cyfoethog Swydd Henffordd, a newyn dan y grug ar fynyddoedd Mynwy.

Mi fuon ni'n crwydro'n lleol hefyd, rhwng cawodydd yn bennaf! Bu'r Fechan a finna yn pori mewn map a rhestru 37 llyn o fewn ffiniau plwyf Ffestiniog, a gosod her i gerdded at lan bob un ohonynt.
Mae'r amserlen wedi ymestyn erbyn hyn i: "cyn diwedd y flwyddyn" ar ôl methu cael digon o ddyddiau sych pan oedd gen' i wyliau haf!

Efallai bydd ambell lun a hanesyn o'r her yn ymddangos yn fan hyn. Gawn ni weld...




2.8.16

Glaw

Dwi isio rhegi. Isio crïo. Gwaeddi.

Mae'r glaw di-baid; dyddiol; cyson, yn ddigalon. A dim golwg am ddiwedd arno.

'Run ffordd dwi'n mynd allan yn hwn...

Ychydig funudau cyn hanner nos ar noson ola' Gorffennaf, roedd dyn tywydd y BBC yn canmol bod Ynys Wyth wedi cael eu mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, efo dim ond 1.4mm o law. Ia, un pwynt pedwar! Ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd y crinc yn dweud "some welcome rain has watered the gardens of southern England..."    !#*&$*#!

Ar fore diwrnod cynta Awst, mi es i hanner ffordd i fyny ochr ddeheuol Cadair Idris (yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr y warchodfa natur yno), er mwyn mesur glawiad mis Gorffennaf.

393mm. Ia, pymtheg modfedd a hanner!

Neis de! Ac mi ges i socsan wrth gerdded i fyny yn y glaw hefyd.


...ond wedyn dwi'n cofio be oedd ffrind coleg yn ddeud ers talwm...
"Mae 'na bobl yn llwgu ym Mwlch Tocyn".

Ac mae 'na bobl yn y byd sy'n byw mewn ofn, mewn rhyfel, heb gartref, heb ddŵr glan, heb hawliau sylfaenol... gwell peidio cwyno gormod am y tywydd s'bo.

Tynged y ceirios wrth aeddfedu yn y glaw...

22.7.16

"Gwneis gymmysgdail i fy lawnt"

Nid pawb sy'n gwirioni 'run fath.
Lawnt anniddorol iawn ydi un berffaith os 'da chi'n gofyn i mi.

Na, dwi'n gwbod bo' chi ddim yn gofyn, ond pwy sydd isio treulio amser yn torri glaswellt yn rheolaidd? A chribinio; a fforchio; ac ychwanegu tywod bras; a dyfrio; a gwrteithio; a lladd chwyn a lladd mwsog; a dilyn streips hirsyth caeth?

Mae 'garddio ar gyfer bywyd gwyllt' yn rhoi rhwydd hynt i rywun ddiogi rhywfaint, ond yn sgîl diffyg sylw i lawnt, daw cyfoeth o liw a chreaduriaid, ac mae hynny'n ddigon da i mi.


y feddyges las
meillion gwyn
maglys du
Yn ogystal â'r uchod, mae blodyn menyn, dant y llew, a geraniums, mantell Fair, mefus gwyllt, ac oregano yn ein lawnt ddail cymysg ni.

O, ac ambell weiryn hefyd!


---------------------
Pennawd "Gwneis gymmysgdail i fy lawnt": William Owen Pughe, 1800 (cyf. Geiriadur Prifysgol Cymru)


20.7.16

'Nôl i Lanarthne

Fel hen ystrydeb, dwi'n teimlo 'chydig bach fel gyrrwr tacsi y dyddia' yma. Ond mae 'na fanteision weithia'.

Wrth i'r Arlunydd orffen ei blwyddyn gynta yng Nghaerdydd, roedd rhaid i rywun fynd i lawr i'w nôl hi, a chario llond car o sgidia', clustoga', a brwshys paent adra. Felly, er nad ydi Llanarthne nunlla agos i'r A470, mi es i i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol 'ar y ffordd' i lawr.

Dwi wedi bod yn feirniadol o'r Ardd yn y gorffennol, yn bennaf am eu diffyg parch i iaith Shir Gâr a Chymru. Erbyn hyn, mae'r wefan, fwy neu lai, yn ddwyieithog (ond ddim yn berffaith o bell ffordd), a phrif weithredwr newydd yn ei le, yn gaddo denu mwy o bobl leol ac ymwelwyr o Gymru.

Ac mae digon o angen hynny. Roedd y lle yn wag!


Biti 'mod i ar ben fy hun, ond mi ges i ddiwrnod wrth fy modd yno, yn crwydro dow-dow.


Doedd y camera ddim gen i ar y diwrnod, 'mond y ffôn, felly ches i ddim lluniau da o blanhigion.

Yr ardd gerrig ydi fo hoff ran i o'r gerddi.


Dwi isio i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol lwyddo. Mae cenedl aeddfed angen pob math o sefydliadau. Ac mae sefydliadau angen cefnogwyr. Felly dwi wedi ymaelodi. Ond bydd yn rhaid i'r lle gadw'n berthnasol i Gymro bach cyffredin fel fi.


Ew, dwi isio gardd furiog! Ga'i un Dolig plîs Mrs Wilias? Oherwydd mae'n hawdd iawn i ymweliad â gardd furiog rhywun arall dorri calon garddwr drama fel fi, efo coed tomatos a phys pêr a ffa ac ati sy'n pathetig o fach a tua mis ar ei hôl hi mewn cymhariaeth!

Peth mawr 'di cenfigen 'de...


Tua tair awr ydi'r daith o Stiniog i Lanarthne, felly go brin y caf fynd yn rheolaidd, ond dwi'n sicr yn edrych ymlaen i fynd eto.

Rwan ta, be o'n i ar ganol ei wneud? O ia, nôl y ferch o Gaerdydd...


19.7.16

Un o eiliadau gorau'r flwyddyn

Codi'r tatws cynnar cyntaf...


Angen dim byd ond berwi a bwyta efo menyn Cymreig hallt.
Nefoedd.